Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (237) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 7, 10, 11, 13 a 15 eu grwpio.
Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5648 David Rees (Aberafan)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5636
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi egwyddorion y Bil Cymorth i Farw.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
20 |
21 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 17.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, o dan y Rhaglen Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion allweddol i gyflawni dros bobl Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn; a
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd targedau ei Lywodraeth o ran:
a) perfformiad y GIG;
b) perfformiad addysgol Cymru yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac
c) gwelliant mewn perfformiad economaidd ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer yr economi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, o dan y Rhaglen Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion allweddol i gyflawni dros bobl Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer yr economi; a
4. Yn galw ar y Prif Weinidog i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd targedau ei Lywodraeth o ran:
a) perfformiad y GIG;
b) perfformiad addysgol Cymru yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac
c) gwelliant mewn perfformiad economaidd ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.02
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.05
NDM5647 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Sicrhau dyfodol ffermio yng Nghymru
Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu wrth ei phartneriaid yn yr UE i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn gallu cael mynediad i dir, adeiladu eu busnesau a manteisio'n llawn ar gronfeydd datblygu Ewropeaidd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.29
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015